
Mae canolfan hamdden newydd rhyfeddol llety Cynin yn cynnig cyfleusterau o’r safon uchaf ar gyfer ein gwesteion a’n haelodau. Mae’r rhain yn cynnwys pwll nofio 40 troedfedd cynnes dan do gyda gwrthlif, sba pum sedd moethus, sauna Tylo wyth sedd a champfa arloesol yn llawn o’r holl offer angenrheidiol. Gallwn drefnu gwersi nofio a hyfforddwyr personol hefyd, i wneud eich arhosiad yma yn fwy arbennig byth.
Yna gallwch ymlacio yn ein lolfa goffi dawel a modern, a mwynhau byrbryd, diod oer neu de neu goffi arbennig.
Mae Llety Cynin yn addo profiad hamdden bythgofiadwy i chi, a hynny mewn amgylchedd heddychlon gyda chyfleusterau rhagorol
Downloads: