Welcome to Llety Cynin

Gorffwys

Un o’r canolfannau llety gorau yng Nghymru
Llety Cynin Kitchens, Bedroom

Dychmygwch y pleser pur o lety en-suite moethus Llety Cynin, ymysg golygfeydd hyfryd a heddychlon cefn gwlad Cymru. Mae ein cyfleusterau yn sicrhau dedwyddwch pob un o’n gwesteion ac yn sicrhau eu bod yn gallu ymlacio.

Mae Llety Cynin yn un o’r canolfannau llety gorau yng Nghymru, gydag 8 ystafell wely hardd en-suite, yn ogystal â chegin hunan ddarpar gynhwysfawr a lolfa foethus, a golygfeydd bendigedig o gefn gwlad trwy ffenestr pob ystafell. Llety hunan ddarpar yn unig a geir yma, ond gellir darparu prydau bwyd ar gais.

Manteisiwch ar ein cyfleusterau hamdden ardderchog, gan gynnwys ein pwll nofio cynnes dan do, y sba a’r sauna, a champfa gyda’r holl offer angenrheidiol.

Mae gwesteion sy’n aros yn Llety Cynin yn gallu defnyddio’r holl gyfleusterau hamdden yn rhad ac am ddim. Mae Llety Cynin yn agos iawn at lawer o atyniadau twristiaid, gan gynnwys Gerddi Botaneg Cymru, traethau godidog Sir Benfro a dinas gyffrous Caerdydd, sydd ddim ond 1 awr a 30 munud o’r ganolfan.

Os ydych chi am ddianc am y penwythnos neu’n chwilio am wyliau i’r teulu cewch y llety a’r mwynhad gorau yn Llety Cynin, yn hafan hyfryd Sir Gaerfyrddin.

 

Cyfleusterau Llety

  • 8 ystafell wely hardd en-suite
  • Lolfa foethus a chegin hunan ddarpar ar gyfer gwesteion
  • Brecwast ar gael, prydau eraill ar gael ar gais
  • Mae gwesteion yn gallu defnyddio Clwb Hamdden Llety Cynin yn rhad ac am ddim
     
All content © 2008 Llety Cynin - Accomodation and Leisure