
Mae Ystafell Gynadledda Llety Cynin yn bendant yn ateb delfrydol ar gyfer seminarau, cynadleddau neu ddyddiau adeiladu tîm. Mae’r Ystafell Gynadledda ymysg golygfeydd prydferth a heddychlon sy’n si?r o ysbrydoli creadigrwydd.
Gallwn ddarparu ar gyfer cyfarfodydd diwrnod neu ddigwyddiadau adeiladu tîm, a phan fyddwch yn teimlo fel paned gallwch gael byrbryd neu de neu goffi arbennig yn y lolfa.
Yna beth am wneud busnes yn bleser trwy ddefnyddio ein cyfleusterau hamdden ardderchog, sy’n cynnwys campfa arloesol a phwll nofio cynnes dan do, ac sy’n cynnig y cytbwysedd perffaith o waith ac ymlacio ar ddiwedd eich diwrnod gwaith?
Bwciwch ein cyfleusterau penigamp a byddwch yn barod am brofiad busnes bythgofiadwy.